Cliciwch i'w agor
Click to open
Tymor yr Hydref 2024/25
"Yn Ysgol Gynradd Pencarnisiog, mae’r pennaeth wedi gwella diwylliant yr ysgol yn llwyddiannus dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Yn hanesyddol, roedd gan yr ysgol ddiwylliant a oedd yn awgrymu nad oes gan ysgolion bach gwledig broblemau gyda llesiant disgyblion, a bod stigma yn perthyn i ddisgybl sydd angen cymorth neu ymyrraeth. O ganlyniad, nid oedd disgyblion bob amser yn cael eu cefnogi’n ddigon da. Mae’r pennaeth wedi gweithio gyda staff a rhieni i hybu iechyd a llesiant, gan ei roi wrth wraidd ei gweledigaeth ar gyfer yr ysgol. Bellach, mae disgyblion yn yr ysgol yn siarad yn agored am lesiant a phwysigrwydd rhannu ofnau a phryderon. Mae disgyblion yn deall gwerth ac effaith y gwasanaeth ymyrraeth yn yr ysgol i ddisgyblion sy’n cael trafferth, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael cymorth eu hunain. Mae gan staff yn yr ysgol well dealltwriaeth o anghenion a theimladau disgyblion, ac maent yn gwella profiadau dysgu a gwasanaethau cymorth o ganlyniad."